Iselder ôl-enedigol a chwedl y fam ‘berffaith’
Dyma Sara’n blogio am ei phrofiad hi o Iselder ôl-enedigol a’r pwysau i fod yn fam “berffaith”:
Nid oedd dod yn fam yn hawdd i mi. Cymerodd dros 18 mis i mi feichiogi. A phan welais y llinell las ar y prawf beichiogrwydd o’r diwedd, yn lle teimlo hapusrwydd llwyr, roeddwn yn bryderus iawn. Roeddwn wedi camesgor o’r blaen. Beth os byddai hynny’n digwydd eto? Roeddwn yn siŵr y byddai rhywbeth yn mynd o’i le, ac ni chysgais am bythefnos cyn rhoi genedigaeth.
Ychydig ddiwrnodau cyn y dyddiad esgor, torrodd fy nŵr. Rhuthron ni i’r ysbyty ac aeth pethau’n waeth ar ôl hynny. Roedd y cyfnod esgor yn anodd, ac yn y diwedd bu’n rhaid i mi gael toriad Cesaraidd ar frys a dau drallwysiad gwaed. Roeddwn wir yn credu fy mod yn mynd i farw.
Pan roddwyd fy mab yn fy mreichiau, roedd rhywbeth o’i le. Doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw beth.
O’r diwedd, ganwyd fy mab, Steffan. Pan roddwyd fy mab yn fy mreichiau, roedd rhywbeth o’i le. Doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw beth. Doeddwn i ddim eisiau ei ddal. Gadewais i’m mam ofalu amdano ar y diwrnod cyntaf hwnnw.
Ar ôl pedwar diwrnod a phedair noson heb gwsg, gwnes i ryddhau fy hun o’r ysbyty. Nid oedd bwydo’n llwyddiannus gartref, ac roedd fy ngorbryder yn gwaethygu. Doeddwn i ddim yn gallu goddef bod ar ben fy hun gyda’m maban.
Tra bod y rhan fwyaf o famau newydd yn teimlo’n hapus, er yn flinedig, wrth groesawu teulu a ffrindiau, doeddwn i ddim eisiau gweld neb. Roedd y syniad yn gwneud i mi deimlo dan hyd yn oed fwy o straen.
Nid oedd cyfarfod â mamau eraill yn llawer o gymorth ychwaith. Es i grŵp mamau newydd, ond roedd eu gweld fel petaen nhw’n ymdopi’n iawn yn gwneud i mi deimlo’n annigonol. Roeddwn yn benderfynol o lynu wrth batrwm cysgu a bwydo i Steff – roeddwn wedi darllen am batrwm o’r fath mewn llyfr babanod ac yn benderfynol o wneud iddo weithio. Pan na fyddai Steff yn dilyn y patrwm, roeddwn yn teimlo fy ngorbryder yn gwaethygu eto.
Baswn yn gobeithio y byddai fy mam yn cynnig mabwysiadu fy mab – doeddwn i ddim eisiau bod yn fam.
Roeddwn yn teimlo bod angen rhoi’r argraff fy mod yn fam berffaith.
Ni fyddai’r bydwragedd na’r ymwelwyr iechyd wedi gwybod beth roeddwn yn ei brofi – roedd y tŷ fel pin mewn papur a Steff yn cysgu’n sownd bob tro y byddent yn galw. Roeddwn yn teimlo bod angen rhoi’r argraff fy mod yn fam berffaith.
Ond ni allwn ymdopi rhagor. Un diwrnod, dechreuais grio o flaen fy mam a dywedais bopeth wrthi. Cytunodd i edrych ar ôl Steff er mwyn i mi weld y meddyg teulu. Yn y diwedd, cefais fy atgyfeirio at y tîm iechyd meddwl cymunedol lleol a chefais ddiagnosis oiselder ôl-enedigol. Dechreuodd o ganlyniad i’r straen wedi trawma’r enedigaeth anodd.
Cefais Nyrs Seiciatrig Gymunedol arbennig a oedd yn canolbwyntio ar therapi siarad. Roedd hi’n fam newydd hefyd, ac roedd yn gallu cydymdeimlo â’r hyn roeddwn yn ei deimlo – yn arbennig y pwysau hynny o fod yn fam berffaith a gwneud popeth yn ‘iawn’. Dyma oedd fy ngham cyntaf tuag at wella. Doedd neb erioed wedi dweud wrthyf y gallai deimlo fel hyn, neu ei fod yn iawn i deimlo’n wael. Roedd clywed hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Bu cyfnodau da a drwg ers hynny. Rwyf weddi gorfod delio â gorbryder ac iselder eto, a hyd yn oed roi’r gorau i weithio am ychydig. Ond rydw i yma o hyd, yn rhannol oherwydd cefais swydd newydd yn gweithio i Amser i Newid Cymru lle’r oedd fy mhrofiad o broblemau iechyd meddwl o fantais.
Yn gynharach eleni, penderfynais wireddu un o’m mreuddwydion ac agor fy nghaffi fy hun yng Nghaerdydd. Ni fyddwn erioed wedi dychmygu rai blynyddoedd yn ôl y byddwn yn y sefyllfa hon; yn rhedeg fy musnes fy hun ac yn fam i fachgen 12 oed hyfryd, ac rwy’n ei garu yn fwy na dim.
Rwy’n gobeithio y bydd rhannu fy stori yn helpu mamau eraill yn yr un sefyllfa i sylweddoli nad oes rhaid iddynt fod yn berffaith ac nad oes angen iddynt ddioddef yn dawel.