EISIAU BOD YN YMDDIRIEDOLWR?
Mind Aberystwyth yw’r elusen lles a iechyd meddwl sy’n cynnig cymorth i bobl Aberystwyth a Ceredigion.
Mae gennym nifer o swyddi gwirfoddol ar gael i rhywun ymuno a’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ac i rannu ein llwyddianau.

Ein Gweledigaeth
Mae’n bwysig i ni fod pawb sy’n profi problem iechyd meddwl yn cael parch a chefnogaeth.
Ein Cenhadaeth
Rydym yn darparu cyngor a chymorth i unrhywun â problem iechyd meddwl. Rydym yn annog gwellhad gwasanaethau, codi amwybyddiaeth a hyrwyddo dealltrwydd.
Ein Gwasanaethau
Rydym yn cyflawni ein gweledigaeth a cenhadaeth drwy darparu cefnogaeth tenantiaeth, cylchlythyr misol, cefnogaeth cymheiriaid, cyrsiau hyfforddiant, gweithgareddau iechyd a lles a chyngor iechyd meddwl.

Os ydych chi’n ymddiriedolwr profiadol neu eisiau cymryd eich camau cyntaf yn y maes, rydym eisiau clywed gennych. Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr sydd âsgiliau, gwybodaeth neu brofiad yn un neu fwy o’r meysydd canlynol.
Profiad bywyd/Darparu Gwasanaethau/Cysylltiadau Cyhoeddus/Cynhwysiant Digidol/Adnoddau Dynol /Dylanwadu Gwleidyddol/ Cyfreithiol/Ariannol/cynhyrchu incwm/Gwasanaethau statudol/Sector Elusennol Codi arian/rhoddion.
Fel ymddiriedolwr fydd gennych
- Hanwythiad, hyfforddiant a threuliau ad-daladwy
- Cyfleoedd i wneud penderfyniadau strategol ac i ddysgu sgiliau newydd
- Cyfleoedd i rwydweithio ag uwch weithwyr proffesiynol
- Dylanwad i lunio darpariaeth gwasanaethau a datblygiad elusennol
- Cyfle i wella iechyd a lles eich cymuned
Disgwylir i ymddiriedolwyr ymrwymo i 6 cyfarfod Bwrdd y flwyddyn, gwaith pwyllgor pan fo angen, a digwyddiadau achlysurol i staff ac ymddiriedolwyr weithio gyda’i gilydd.

“Mae gennym grŵp o bobl gwych ar ein Bwrdd sy’n angenrheidiol i’r penderfyniadau mawr sydd angen eu gwneud. Byddem ar goll hebddynt.” Staff Mind Aberystwyth
I wneud cais, lawrlwythwch y Ffurflen MyneguElusennol Diddordeb.
Darllenwch y dogfennau yma cyn cwblhau’r Ffurflen Mynegu Diddordeb
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau 5pm ar Ddydd Gwener 26ain Chwefror
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’n Rheolwr Cyllid Gillian Styles neu ein Rheolwr Cyfathrebu Rob Allen drwy ysgrifennu at info@mindaberystwyth.org neu ffonio 01970 626225.
Bydd cais am dystysgrif DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) yn cael ei gyflwyno i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus.