Monitro Gweithredol
Rydyn ni yma i’ch helpu gyda’ch pryderon, mawr neu fach.
A ydych chi’n dioddef stres neu bryder o’r newydd oherwydd y pandemig coronafeirws, neu â phroblemau mwy hir dymor o iselder, dicter neu hunan barch, ymunwch â’n gwasanaeth hunan help gydag arweiniad rhad ac am ddim yma.
Cysylltwch â ni heddiw ac o fewn wythnos, byddwn mewn cysylltiad i ddylunio rhaglen o gefnogaeth sy’n iawn i chi.
Nid gwasanaeth brys yw Monitro Gweithredol. Os ydych chi angen help ar unwaith, ffoniwch y Samariaid ar 116 123.
Beth yw Monitro Gweithredol?
Rhaglen chwe wythnos o hunan help gydag arweiniad yw Monitro Gweithredol i’ch helpu chi i ddeall ac i deimlo’n fwy mewn rheolaeth o’ch emosiynau. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n rhoi’r awgrymiadau a’r offer y byddwch chi eu hangen i ddeall eich hun yn well ac yn eich cefnogi drwy’r cwrs gyda galwadau ffôn rheolaidd.
Yn eich galwad ffôn gyntaf, byddwch chi a’ch ymarferydd Monitro Gweithredol yn trafod a yw’r gwasanaeth yn iawn i chi. Gyda’ch gilydd, byddwn yn cytuno ar raglen o gefnogaeth a fydd yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Pryder
- Iselder
- Hunan-barch
- Stres
- Teimlad o unigrwydd
- Rheoli tymer
Bob wythnos, byddwch yn derbyn deunydd i’ch helpu chi i ddeall ac i reoli eich teimladau. Gallai rhain gynnwys eglurhad o sut a pham bod gwahanol deimladau’n codi, dyddiadur meddyliau neu dechnegau ymwybyddiaeth.
Ond fydd dim rhaid i chi fynd trwy’r rhain ar eich pen eich hun. Bydd eich ymarferydd Monitro Gweithredol yn eich ffonio bob wythnos i drafod sut ydych chi’n teimlo ac i’ch helpu gydag unrhyw broblem. Y cyfan rydych ei angen i gychwyn arni yw rhif ffôn. Ymunwch heddiw a gallech fod yn teimlo fod gennych fwy o reolaeth ar eich sefyllfa mewn dim ond rhai wythnosau.

Cwestiynau Cyffredin
C. Sut alla i ymuno?
a. Os oes gennych ebost, llenwch y daflen hunan-gyfeirio arlein a’i yrru nôl at info@mindaberystwyth.org. Os nad oes, rhowch alwad i Mind Aberystwyth 01970 626225 ac fe yrrwn gopi caled atoch yn y post. Os na fydd neb yn ateb yn syth, gadewch neges ar y peiriant ateb, gan gofio gadael eich enw a chyfeiriad.
C. Sut y gallai fy helpu i?
A. Mae Monitro Gweithredol yn helpu drwy roi syniad i chi o’ch iechyd meddwl a thrwy ddangos ffyrdd ymarferol i chi ddeall a rheoli eich emosiynau. Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod yn deall eich teimladau’n well, pam eu bod yn codi, sut i’w rheoli a sut i deimlo fwy mewn rheolaeth.
C. Mae gen i broblemau iechyd meddwl yn barod, a yw hyn yn iawn i mi?
C. Gall Monitro Gweithredol weithio ar y cyd â thriniaethau eraill. Bydd ein Hymarferwyr Monitro Gweithredol yn trafod y rhaglen gyda chi, ac ai dyma’r rhaglen iawn i chi, yn eich ymgynghoriad cyntaf. Os oes gennych chi anghenion gwahanol, bydd eich ymarferydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad gyda gwasanaethau eraill a allai eich helpu.
C. A oes gofyn i mi gael fy nghyfeirio gan fy meddyg Teulu?
a. Nac oes. Fe fedrwch hunan-gyfeirio drwy lenwi’r daflen a’i yrru drwy ebost neu drwy ddanfon copi caled drwy’r post arferol.
C. Dydw i ddim yn byw yng Nghymru, alla i ddal i gael y gwasanaeth?
A. Gan mai Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect hwn, dim ond yng Nghymru y mae ar gael. Mae manylon y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr ar ein tudalennau gwybodaeth https://www.mind.org.uk/information-support/guides-to-support-and-services
C. Oes yna restr aros?
A. Does yna ddim rhestr aros ar hyn o bryd. Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni, byddwn yn cysylltu â chi o fewn yr wythnos.
C. Pa mor ddifrifol sydd raid i’m problemau i fod?
A. Gwasanaeth yw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo fod eu hemosiynau’n mynd yn drech na nhw, a gallai hynny fod am sawl rheswm. Does dim rhaid i chi fod wedi cael deiagnosis o broblem iechyd meddwl i gael y gwasanaeth hwn.
C. Faint mae’n gostio?
Does dim rhaid i chi dalu i ddefnyddio Monitro Gweithredol. Mae’r gwasanaeth am ddim, diolch i arian Llywodraeth Cymru.
C. Does gen i ddim cyfeiriad e-bost – allwch chi bostio’r deunyddiau?
Gallwn. Fe allwn ni roi’r deunyddiau yn y post yn lle eu ebostio os yw’n well gennych chi. Bydd hyn yn cael ei gytuno yn eich galwad ffôn gyntaf gyda’ch ymarferydd Monitro Gweithredol.
C. A yw ar gael yn Gymraeg?
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Os yn bosibl, byddwn yn cael ymarferydd yn siarad Cymraeg i weithio gyda chi.
Mae Monitro Gweithredol yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda 17 Mind lleol yng Nghymru diolch i arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i’r pandemig Coronafeirws.