Mamau yn Bwysig

Gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol wedi’i ddylunio a’i ddatblygu gan famau ar gyfer mamau. Arweinir Mamau yn Bwysig gan Mind Sir Benfro a’i rhedeg gan Mind Sir Benfro, Aberystwyth, Llanelli a Chaerfyrddin. Bydd mamau’n gallu mynychu unrhyw gwrs os ydyn nhw’n byw yng Ngheredigion, Sir Benfro neu Sir Gaerfyrddin.

Pwrpas y gwasanaeth yw ymyrraeth cynnar i famau sy’n teimlo eu bod yn cael trafferth â’u hiechyd meddwl.

Bydd Mind Aberystwyth yn cyflwyno ei cwrs cyntaf yng Nghanolfan Deulu Borth o Ddydd Iau 2il o Fedi.

Yn ogystal â chwrdd a mamau a gwneud ffrindiau newydd bydd y cwrs yn cynnwys sut i feithrin eich hun, sut i ymdopi â phatrymau meddwl negyddol, a sut i fod yn garedig i chi’ch hun. Hanner ffordd trwy’r cwrs bydd sesiwn galw heibio ychwanegol lle gallwch ddod â’ch partner neu gefnogwyr. Mae cyfleusterau parcio ceir a creche cyfyngedig ar gael. Gofynnwch am hyn wrth gofrestru eich lle.

I gofrestru ar gyfer y cwrs hwn, lawrlwythwch y ffurflen yma a’i dychwelyd i info@mindaberystwyth.org. Am fanylion pellach galwch 01970 626225 (boreau yn unig).

I wirfoddoli i helpu i redeg y cwrs hwn gweler y dudalen Swyddi Gwag ar y wefan hon.