Monitro Gweithredol

Rydyn ni yma i’ch helpu gyda’ch pryderon, mawr neu fach.  

A ydych chi’n dioddef stres neu bryder o’r newydd oherwydd y pandemig coronafeirws, neu â phroblemau mwy hir dymor o iselder, dicter neu hunan barch, ymunwch â’n gwasanaeth hunan help gydag arweiniad rhad ac am ddim yma.  

Cysylltwch â ni heddiw ac o fewn wythnos, byddwn mewn cysylltiad i ddylunio rhaglen o gefnogaeth sy’n iawn i chi.  

Nid gwasanaeth brys yw Monitro Gweithredol.  Os ydych chi angen help ar unwaith, ffoniwch y Samariaid ar 116 123.

Beth yw Monitro Gweithredol?

Rhaglen chwe wythnos o hunan help gydag arweiniad yw Monitro Gweithredol i’ch helpu chi i ddeall ac i deimlo’n fwy mewn rheolaeth o’ch emosiynau.  Mae hynny’n golygu ein bod ni’n rhoi’r awgrymiadau a’r offer y byddwch chi eu hangen i ddeall eich hun yn well ac yn eich cefnogi drwy’r cwrs gyda galwadau ffôn rheolaidd.

Yn eich galwad ffôn gyntaf, byddwch chi a’ch ymarferydd Monitro Gweithredol yn trafod a yw’r gwasanaeth yn iawn i chi. Gyda’ch gilydd, byddwn yn cytuno ar raglen o gefnogaeth a fydd yn cynnwys y pynciau canlynol:

  • Pryder
  • Iselder
  • Hunan-barch
  • Stres
  • Teimlad o unigrwydd
  • Rheoli tymer

Bob wythnos, byddwch yn derbyn deunydd i’ch helpu chi i ddeall ac i reoli eich teimladau.  Gallai rhain gynnwys eglurhad o sut a pham bod gwahanol deimladau’n codi, dyddiadur meddyliau neu dechnegau ymwybyddiaeth.

Ond fydd dim rhaid i chi fynd trwy’r rhain ar eich pen eich hun.  Bydd eich ymarferydd Monitro Gweithredol yn eich ffonio bob wythnos i drafod sut ydych chi’n teimlo ac i’ch helpu gydag unrhyw broblem.  Y cyfan rydych ei angen i gychwyn arni yw rhif ffôn. Ymunwch heddiw a gallech fod yn teimlo fod gennych fwy o reolaeth ar eich sefyllfa mewn dim ond rhai wythnosau.

Cwestiynau Cyffredin

C. Sut alla i ymuno?

a. Os oes gennych ebost, llenwch y daflen hunan-gyfeirio arlein a’i yrru nôl at info@mindaberystwyth.org. Os nad oes, rhowch alwad i Mind Aberystwyth 01970 626225 ac fe yrrwn gopi caled atoch yn y post.  Os na fydd neb yn ateb yn syth, gadewch neges ar y peiriant ateb, gan gofio gadael eich enw a chyfeiriad.

C. Sut y gallai fy helpu i?

A.  Mae Monitro Gweithredol yn helpu drwy roi syniad i chi o’ch iechyd meddwl a thrwy ddangos ffyrdd ymarferol i chi ddeall a rheoli eich emosiynau.  Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod yn deall eich teimladau’n well, pam eu bod yn codi, sut i’w rheoli a sut i deimlo fwy mewn rheolaeth.

C. Mae gen i broblemau iechyd meddwl yn barod, a yw hyn yn iawn i mi?

C.  Gall Monitro Gweithredol weithio ar y cyd â thriniaethau eraill.  Bydd ein Hymarferwyr Monitro Gweithredol yn trafod y rhaglen gyda chi, ac ai dyma’r rhaglen iawn i chi, yn eich ymgynghoriad cyntaf.  Os oes gennych chi anghenion gwahanol, bydd eich ymarferydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad gyda gwasanaethau eraill a allai eich helpu.

C. A oes gofyn i mi gael fy nghyfeirio gan fy meddyg Teulu?

a. Nac oes. Fe fedrwch hunan-gyfeirio drwy lenwi’r daflen a’i yrru drwy ebost neu drwy ddanfon copi caled drwy’r post arferol.

C. Dydw i ddim yn byw yng Nghymru, alla i ddal i gael y gwasanaeth?

A. Gan mai Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect hwn, dim ond yng Nghymru y mae ar gael.  Mae manylon y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr ar ein tudalennau gwybodaeth https://www.mind.org.uk/information-support/guides-to-support-and-services

C. Oes yna restr aros?

A. Does yna ddim rhestr aros ar hyn o bryd.  Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni, byddwn yn cysylltu â chi o fewn yr wythnos.

C. Pa mor ddifrifol sydd raid i’m problemau i fod?

A. Gwasanaeth yw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo fod eu hemosiynau’n mynd yn drech na nhw, a gallai hynny fod am sawl rheswm.  Does dim rhaid i chi fod wedi cael deiagnosis o broblem iechyd meddwl i gael y gwasanaeth hwn.  

C. Faint mae’n gostio?

Does dim rhaid i chi dalu i ddefnyddio Monitro Gweithredol.  Mae’r gwasanaeth am ddim, diolch i arian Llywodraeth Cymru.  

 C. Does gen i ddim cyfeiriad e-bost – allwch chi bostio’r deunyddiau?

Gallwn.  Fe allwn ni roi’r deunyddiau yn y post yn lle eu ebostio os yw’n well gennych chi.  Bydd hyn yn cael ei gytuno yn eich galwad ffôn gyntaf gyda’ch ymarferydd Monitro Gweithredol.  

C. A yw ar gael yn Gymraeg?

Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  Os yn bosibl, byddwn yn cael ymarferydd yn siarad Cymraeg i weithio gyda chi.  

Mae Monitro Gweithredol yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda 17 Mind lleol yng Nghymru diolch i arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i’r pandemig Coronafeirws.