Ochr-yn-Ochr Cymru
Ochr-yn-Ochr Cymru
Cymorth gan Gymheiriaid yn Eich Cymuned
I lawer ohonon ni gall celf a chrefft, chwaraeon neu grwpiau hunangymorth wneud gwahaniaeth mawr i’n bywydau – gall rhywbeth mor syml â bore coffi rheolaidd hyd yn oed helpu.
Gall grwpiau fod yn ffordd wych o gysylltu â phobl sydd wedi cael profiadau tebyg i ni – a gall hyn roi hwb go iawn i’n hiechyd meddwl. Rydyn ni’n galw hyn yn gymorth gan gymheiriaid.
Hyfforddiant a grantiau am ddim
Os ydych chi’n rhan o sefydliad neu grŵp cymunedol sy’n cynnig cymorth gan gymheiriaid – neu’n meddwl am ddechrau grŵp – gallwn ni eich helpu i ddechrau arni.
Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru a Mind Cymru, rydyn ni’n cynnal cyfres o sesiynau hyfforddiant a rhwydweithio am ddim lle gallwch chi weld sut mae eraill wedi rhedeg grwpiau yn llwyddiannus. Gallwch chi hefyd ddod o hyd i gymorth gan eraill yn eich ardal.
Rydyn ni hefyd yn cynnig grantiau bach i’ch helpu i ddechrau arni. Gallai’r arian hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel llogi lleoliad, taflenni, deunyddiau ar gyfer gweithgareddau, ymhlith llawer o bethau eraill.
CLICIWCH YMA AM FFURFLEN AELODAETH
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
- Unrhyw un sy’n gysylltiedig â rhedeg grŵp cymunedol lle mae cymorth gan gymheiriaid.
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu grŵp cymorth gan gymheiriaid.
- Sefydliadau sydd am gefnogi pobl i redeg grŵp cymorth gan gymheiriaid.
Rhaid i’ch sefydliad neu grŵp fod wedi ei leoli yn Ceredigion / Pembrokeshire.
Ble fydd y sesiynau?
Bydd ein sesiynau yn cael eu cynnal yn Ceredigion / Pembrokeshire.
Sut i gofrestru
Cliciwch yma am ffurflen aelodaeth
Dychwelyd i:
sidebyside@mindaberystwyth.org
Hyfforddiant
Dysgwch am weithgareddau ymarferol a syniadau am sut i sicrhau bod grwpiau’n rhedeg yn ddidrafferth, yn ogystal â sut i ddelio â phroblemau pan fyddan nhw’n codi.
Rhwydweithio
Cyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a rhannu profiadau o gymorth gan gymheiriaid. Bydd pob digwyddiad yn trafod pynciau gwahanol ac yn cynnwys siaradwyr gwadd.
Grantiau bach
Yn ein digwyddiadau hyfforddiant a rhwydweithio, bydd cyfle i chi ddarganfod mwy am sut i wneud cais am grant o hyd at £250 i roi cymorth i’ch grŵp.
Y prosiect
Mae Ochr-yn-Ochr Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng Mind Cymru a changhennau Mind lleol yng Nghymru i helpu pobl i deimlo’n hyderus yn rhoi cymorth o ansawdd uchel gan gymheiriaid. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi.