Monitro Gweithredol


Mae’r blog yma wedi cael ei ail-gyhoeddi o mind.org.uk
Rwyf wedi cael trafferth gyda phryder ers yn hir iawn, ers fy arddegau diweddar a, thros y blynyddoedd rwyf wedi rhoi tro ar sawl ffordd i geisio ei reoli, rhai yn helpu, cwnsela, a rhai yn helpu llai. Ond roeddwn i’n methu’n glir a chanfod ffordd o’i reoli o ddydd i ddydd. Roedd rhai therapïau’n gweithio yn y tymor byr ond, cyn bo hir, byddai’r poeni a’r pryder yn dod yn ôl eto.


Cwsg aflonydd wrth boeni drwy’r nos, cynhyrfu, osgoi pobl eraill, fe allwn i fynd fisoedd heb ateb y ffôn ac roedd teimlo ar bigau’r drain yn gwneud byw o ddydd yn anodd. Mae wastad disgwyl y gwaethaf a byw mewn ofn parhaus yn llethol. Byddai fy nghefn yn mynd i frifo wrth i’r cyhyrau dynhau ac, yn y diwedd roeddwn i ar dabledi lladd poen cryf iawn ac yn cael sganiau a ffisiotherapi i geisio helpu. Roeddwn i wedi blino ac wedi diflasu. Byddwn yn mynd i boeni cymaint fel y byddai’n rhaid i mi gael amser o’r gwaith i geisio cael trefn ar bethau


Rwyf wedi bod yn gweithio i Mind Aberhonddu a’r Cylch am ychydig dros bedair blynedd erbyn hyn. Rwy’n siŵr fod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod digon o help i gael wrth weithio mewn gwasanaeth iechyd meddwl. Mewn gwirionedd, ryw’n ei chael hi’r un mor anodd i siarad am fy mhryder ag unrhyw un arall. Ond, diolch i’r drefn, mae’r tîm yma yn hynod gefnogol a, pan oeddwn i’n cael trafferth unwaith eto yn niwedd 2018, cafod Monitro Gweithredol ei awgrymu.


Fe ddechreuais i gael Monitro Gweithredol, dros y ffôn gyda’m Mind lleol fel fy mod i’n teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda’r ymarferwr, RG. Ar ôl bod trwy sawl therapi siarad arall dros y blynyddoedd, roeddwn i braidd yn bryderus, ond, bobl bach, mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Hyd yn oed yn awr, efallai yn arbennig yn awr, rwy’n defnyddio’r technegau a ddysgwyd i mi yn ôl yn 2018. Roedd RG, yr ymarferydd, yn anhygoel. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael gwrandawiad go iawn a bod y gefnogaeth roeddwn i’n ei gael yn cael ei deilwra ar fy nghyfer i, ac nid yn ymarfer ticio blychau cyffredinol.


At ei gilydd, roeddwn i’n dilyn y llwybr pryder ond roedd RG yn wych am ddefnyddio adnoddau o lwybrau eraill pe byddai angen. Mae’n golygu, erbyn hyn, fy mod i’n gallu defnyddio fy offer cefnogi personol os bydd angen. Mae’r “Goeden Penderfynu Pryder” yn ffefryn i’m cael yn ôl i drefn a hefyd y pethau i’m hatgoffa i fod yn garedig wrthyf i fy hun. Weithiau, roedd yn ddigon dim ond cofio ei bod yn iawn, mewn rhai amgylchiadau, bod yn bryderus. Doedd poeni fy mod yn poeni cymaint ddim yn ddefnydd gorau o amser ac yn ffordd sicr o gael noson o gwsg da i ddim.
Roedd fy llesiant yn llawer iawn gwell erbyn i mi orffen y cwrs. Ers i mi orffen Monitro Gweithredol yn nechrau 2019, allai ddim dweud fod fy mhryder wedi diflannu, ond erbyn hyn mae gen i’r offer i’w drin a’i rwystro rhag amharu ar fy mywyd. Mae gennym ni i gyd ein pryderon, yn enwedig nawr, a thrwy ddefnyddio’r offer a roddodd RG i mi rwy’n gallu rhoi’r pryderon hynny mewn persbecif a pheidio â gadael i’m meddyliau gymryd trosodd. Fel y dywedwyd wrthyf “Gwas yw fy meddwl a fi yw ei feistr”.


Monitro Gweithredol yw’r gefnogaeth orau rwyf wedi’i ddefnyddio erioed ac mae’r ffaith fy mod i’n dal i’w ddefnyddio, 18 mis yn ddiweddarach, yn dangos hynny. Mae’n nhw’n dal i’m galw “y pryderwr” gartref ac mae hynny’n iawn.


Bywgraffiad:
Mae Zoë’n byw ger Aberhonddu. Mae’n defnyddio ei hamser ychwanegol gartref ar hyn o bryd i ymarfer arlunio botaneg ac i ddysgu chwarae’r ukulele