Mae Ochr yn Ochr Cymru wedi’i ymestyn i fis Medi 2021
Lansiwyd Ochr yn Ochr Cymru (y prosiect cymorth cymheiriaid cymunedol ar gyfer Gorllewin Cymru) yng Ngwanwyn 2019. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y prosiect wedi’i ymestyn am chwe mis arall.
Mae cefnogaeth cymheiriaid yn digwydd pan mae pobl yn defnyddio eu profiadau eu hunain i helpu ei gilydd. Gall hyn fod o fewn grwpiau, un i un neu ar-lein a gall gynnwys gweithgareddau fel crefftau, cerdded neu cyfarfod i gael coffi.
Mae Ochr yn Ochr Cymru wedi ariannu dros 70 grŵp cymunedol gyda chyllid grant bach; hyfforddi 350 o bobl mewn sgiliau a rhinweddau cymorth cymheiriaid; cyflwyno hyfforddiant un i un i bobl sy’n hwyluso ac yn arwain grwpiau cymunedol; a datblygu Rhwydwaith Cymorth Cymheiriaid Gorllewin Cymru.
Mae’r Rhwydwaith yn cael ei gynnal gan Mind Aberystwyth. Mae dros 100 grŵp ac unigolion sydd â diddordeb mewn cefnogaeth cymheiriaid yn rhan o’r rhwydwaith.
Mae aelodau’n derbyn bwletinau am gymorth cymheiriaid yn eu hardal a manylion cyllid cymorth cymheiriaid a chyfleoedd hyfforddi.
Bydd yr estyniad 6 mis yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer cyllid grant bach £250, hyfforddiant un i un, gweithdai cymorth cymheiriaid a digwyddiadau rhwydweithio.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
- Unrhyw un sy’n gysylltiedig â rhedeg grŵp cymunedol lle mae cymorth gan gymheiriaid.
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu grŵp cymorth gan gymheiriaid.
- Sefydliadau sydd am gefnogi pobl i redeg grŵp cymorth gan gymheiriaid.
- Rhaid i’ch sefydliad neu grŵp fod wedi ei leoli yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ac ar-lein.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda:
Grwpiau dan arweiniad ac ar gyfer pobl o gymunedau hiliol
Grwpiau dan arweiniad ac ar gyfer pobl ifanc (18 – 25 oed)
Grwpiau dan arweiniad ac ar gyfer pobl o’r gymuned LGBTQI
Grwpiau dan arweiniad ac ar gyfer dynion
Efallai na fyddai’r grwpiau hyn wedi gallu cyfarfod yn ystod y pandemig ac efallai y bydd angen help arnynt i ddechrau cyfarfodydd grŵp ar-lein. Neu grwpiau sydd wedi bod yn cyfarfod ar-lein yn ystod y pandemig ac sy’n dymuno ailsefydlu eu grwpiau unwaith fydd hi’n saff i gwrdd wyneb i wyneb.
Ble fydd y sesiynau?
Bydd ein sesiynau yn cael eu cynnal yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac ar-lein.
Sut i gofrestru
Cliciwch yma am ffurflen aelodaeth
Dychwelyd i: peersupport@mindaberystwyth.org
Hyfforddiant
Dysgwch am weithgareddau ymarferol a syniadau am sut i sicrhau bod grwpiau’n rhedeg yn ddidrafferth, yn ogystal â sut i ddelio â phroblemau pan fyddan nhw’n codi.
Rhwydweithio
Cyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a rhannu profiadau o gymorth gan gymheiriaid. Bydd pob digwyddiad yn trafod pynciau gwahanol ac yn cynnwys siaradwyr gwadd.
Grantiau bach
Yn ein digwyddiadau hyfforddiant a rhwydweithio, bydd cyfle i chi ddarganfod mwy am sut i wneud cais am grant o hyd at £250 i roi cymorth i’ch grŵp.
Y prosiect
I gymryd rhan, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflenni hyn. Dychwelwch yn ôl i peerupport@mindaberystwyth.org.
I wneud cais am grant bach hefyd, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflenni hyn. Dychwelwch yn ôl i peerupport@mindaberystwyth.org.

Mae’r cyfle yma ar gael drwy Prosiect Ochr yn Ochr Mind Aberystwyth: Cymorth Cymheiriaid yn eich prosiect.